Dacw'r ffynnon i'w dymuno, Fywiol sy'n yr anial dir; Dacw'r unig ddŵr sy'n rhoddi Hedd ac anfarwoldeb clir: Ar Galfaria Tardd yr afon loyw i maes. Yno'r af i 'mofyn pleser - Unig bleser i barhau; Yno caf fi lawn faddeuant Am bob trosedd, a phob bai; Yno'n unig Caf g'wilyddio o honof f'hun. Iachawdwriaeth rad ei hunan Yw fy mhlê o flaen y nef; A ffarwel am danaf fythol Oni chaf ei haeddiant ef: Iesu ei hunan, Oll o flaen y faingc i mi. - - - - - Dacw'r ffynnon i'w dymuno, Fywiol sy'n yr anial dir; Dacw'r unig ddwfr sy'n rhoddi Hedd ac anfarwoldeb clir: Ar Galfaria Tardd yr afon loyw i maes. Dyma'r euog, ofnus, aflan, Eto'n chwenych bod yn wyn, Yn yr afon gymysg liwiau, Darddodd allan ar y bryn: Balm o Gilead, Anngydmarol yw dy waed. Golchi'r ddu gydwybod aflan Lawer gwynnach eira mân; Gwneud y brwnt, gan' waith ddifwynodd Yn y domen, fel y gwlân: Pwy all fesur Lled a dyfnder maith ei ras? Minau ddof i'r ffynon loyw Darddodd allan ar y bryn, Ac mi olcha'm henaid euog Ganwaith yn y dyfroedd hyn; Myrdd o feiau, Daflaf lawr yn ngrym y dwr.
Tonau [878747]:
gwelir: |
Yonder is the lively spring To be desired, which is in the desert land; Yonder is the only water which is giving Peace and clear immortality: On Calvary Springs the shining river out. There I will go to ask for pleasure - The only pleasure to endure; There I will get full forgiveness For every transgression, and every fault; There alone May I become ashamed of myself. Free salvation itself Is my plea before heaven; And farewell for me forever Unless I get his merit: Jesus himself, All before the throne for me. - - - - - Yonder is the lively spring To be desired, which is in the desert land; Yonder is the only water which is giving Peace and clear immortality: On Calvary Springs the shining river out. Here is the guilty, fearful, unclean, Still longing to be white, In the river of a mixture of colours, Which issued out on the hill: The balm of Gilead, Incomparable is thy blood. Washing the unclean, black conscience Much whiter than fine snow; Making the filthy, a hundred times defiled In the dung-heap, like the wool: Who can measure The vast breadth and depth of his grace? I too shall come to the bright spring Which issued out on the hill, And I will wash my guilty soul A hundred times in these waters; A myriad of faults, I will fling down in the force of the water. tr. 2017 Richard B Gillion |
|